Cofnodion deugeinfed cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddyfrffyrdd
Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel, Bae Caerdydd
Dydd Mawrth 12 Mai 2015
18.00
Aelodau’r Cynulliad yn bresennol:
Russell George AC (Ceidwadwyr Cymreig, Sir Drefaldwyn)
Antoinette Sandbach AC (Ceidwadwyr Cymreig, Gogledd Cymru)
Mike Hedges AC (Llafur Cymru, Dwyrain Abertawe)
Yn bresennol:
Andrew Stumpf – Glandŵr Cymru
Laura Lewis – Glandŵr Cymru
Jamie McNamara – Yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd
Alan Goulbourne – Artist preswyl ar Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu
Jackie Humphries – Glandŵr Cymru
David Alston
Sarah Pace
Gareth Williams
Gillian Billsborough – Cyfoeth Naturiol Cymru
Laura Murton – Swyddfa Julie James AC
Tracy Simpson – Addo Creative
Lorraine Griffiths – Cadw
Thomas Maloney
Dawn Roberts
Gareth Jones – Urban Regen
Donna Coyle
Rob Frowen
Carole Jacob
Dechreuodd y cyfarfod am 18.10
Eitem 1: Cyflwyniad gan Tracy Simpson, Addo Creative
Defnyddio’r dyfrffyrdd yng Nghymru i gysylltu cymunedau â chelf.
Amlinellodd Tracy Simpson y ffyrdd y gall cymunedau ymgysylltu â dŵr, a sut y gellir gwneud celf yn hygyrch ar y dyfrffyrdd. Sefydlwyd Addo gan Sarah Pace a Tracy Simpson, ac mae ganddynt dros 20 mlynedd o brofiad o weithio yn y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt mewn modd deinamig a sefydledig, a phrofiad o gychwyn, comisiynu a chynhyrchu amrywiaeth eang o brosiectau celf cyfoes. Gan weithio gydag artistiaid, grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol, partneriaid sector preifat a’r sector cyhoeddus, ac ar ran y grwpiau hyn, rydym wedi curadu, rheoli a chynhyrchu: celf a rhaglenni cyhoeddus parhaol a dros dro; prosiectau artistiaid preswyl; dogfennau strategaeth a fframwaith; astudiaethau ymchwil, gwerthuso a dichonoldeb; ac arddangosfeydd a digwyddiadau amrywiol mewn mannau celf a di-gelf.
Mae’r cyflwyniad ar gael ar gais gan enquiries.wales@canalrivertrust.org.uk
Sesiwn holi ac ateb
Jamie McNamara: A ydych yn credu bod dyfrffyrdd yn fan cychwyn da ar gyfer prosiectau celf cymunedol?
Tracy Simpson: Rydym wedi canfod bod pobl yn gallu ymgysylltu â dŵr a’u bod yn gallu ymgysylltu â gwaith sy’n dangos y broses hon.
Eitem 2: Cyflwyniad gan Alan Goulbourne, artist preswyl ar Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu
Y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect Artist preswyl ar Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu
Rhoddodd Alan Goulbourne y wybodaeth ddiweddaraf am ei waith fel artist preswyl ar Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu, ac am ei waith yn gyffredinol. Artist wedi’i leoli yng Nghaerdydd yw Alan Goulbourne, a dechreuodd ei gyfnod preswyl ar Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu ym mis Chwefror am bedwar mis. Mae ei waith cyfredol yn cynnwys creu gwaith cerfluniol mewn orielau a mannau cyhoeddus. Mae Alan newydd dreulio cyfnod fel artist preswyl yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac mae wedi arddangos a gwneud gwaith yn Bahrain ac ar draws y DU yn y gorffennol.
Sesiwn holi ac ateb
Jamie McNamara: Beth ysbrydolodd eich gwaith?
Alan Goulbourne: Mae fy ngwaith yn dibynnu ar broses o weithredu trefn ac anhrefn, i bob pwrpas ar hap, er mwyn gyrru dilyniant o un foment i rywbeth sy’n frith â chymhlethdod yn weledol. Gyda’r cyfnod preswyl hwn, roeddwn yn creu corff o waith sy’n rhyngweithio â’r gymuned a’r amgylchedd yn yr ardal, gan adlewyrchu hanes a dyfodol perthnasol y gamlas
Lorraine Griffiths: Beth ddigwyddodd i’r cerflun terfynol?
Alan Goulbourne: Nid oedd unrhyw le i’w storio, felly cafodd ei ddatgysylltu.
Eitem 3: Unrhyw Fater Arall
Dim
Dyddiad y cyfarfod nesaf: 22 Medi 2015.